Milan Kundera

Oddi ar Wicipedia
Milan Kundera
Milan Kundera ym 1980.
Ganwyd1 Ebrill 1929 Edit this on Wikidata
Brno, Královo Pole, Brno Edit this on Wikidata
Bu farw11 Gorffennaf 2023 Edit this on Wikidata
7fed arrondissement Paris, Paris Edit this on Wikidata
Man preswylParis, Purkyňova street, Roazhon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, tsiecia, Tsiecoslofacia, di-wlad Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cyfadran y Celfyddydau, Prifysgol Charles yn Prag
  • Ysgol Ffilm a Theledu Academi'r Celfyddydau Mynegiannol, Prag Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, cyfieithydd, academydd, bardd, dramodydd, awdur ysgrifau, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Joke, The Book of Laughter and Forgetting, The Unbearable Lightness of Being, Immortality, Laughable Loves Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Czechoslovakia, Plaid Gomiwnyddol Czechoslovakia Edit this on Wikidata
TadLudvík Kundera Edit this on Wikidata
MamMilada Kunderová Edit this on Wikidata
PriodVěra Kunderová, Olga Haasová Edit this on Wikidata
PerthnasauLudvík Kundera Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Herder, Prix mondial Cino Del Duca, Urdd Teilyngdod Za zásluhy, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, Gwobr Nelly Sachs, Gwobr Jeriwsalem, Jaroslav Seifert Prize, Prix de la critique, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr Franz Kafka, Urdd Teilyngdod, honorary doctor of the University of Michigan, Mondello Prize, The prize of the BNF, Gwobr y Wladwriaeth Tsiec am Lenyddiaeth, Q3404571, Gwobr Gladwriaeth Klement Gottwald Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor Tsiecaidd a ymsefydlodd yn Ffrainc oedd Milan Kundera (1 Ebrill 192911 Gorffennaf 2023)[1] sydd yn nodedig am ei nofelau athronyddol a mewnsyllol, yn yr ieithoedd Tsieceg a Ffrangeg. Mae ei waith yn archwilio themâu megis hunaniaeth, cof, cariad, a'r cyflwr dynol, ac yn cyfuno elfennau o ffuglen, athroniaeth, a sylwebaeth wleidyddol.

Ganed ef yn Brno, Tsiecoslofacia, yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, yn fab i'r pianydd a cherddolegydd Ludvik Kundera. Astudiodd gerddoriaeth a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Karlova, Prag, cyn ennill ei damaid fel cerddor jazz,a barddoni. Dechreuodd ysgrifennu dramâu yn y 1950au, ac yn y diwedd trodd at y nofel. Derbyniodd glod beirniadol yn Tsiecoslofacia am ei nofelau cynnar megis Žert (1967) a Život je jinde (1973).

Fodd bynnag, mynegodd Kundera wrthwynebiad i'r llywodraeth gomiwnyddol, ac o'r herwydd fe wynebai her i'w yrfa lenyddol yn ei famwlad. Yn sgil goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw ym 1968, cafodd ei siomi gan y gormes gwleidyddol a'r cyfyngiadau ar ryddiad mynegiant yn y bloc dwyreiniol. Cafodd ei wthio i'r cyrion gan yr awdurdodau a'i ynysu gan sefydliadau diwylliannol y wlad, ac o'r diwedd penderfynodd mynd yn alltud.

Ymfudodd Kundera i Ffrainc ym 1975, a derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig ym 1981. Dechreuodd ysgrifennu trwy gyfrwng y Ffrangeg, a daeth yn un o brif ffigurau byd llenyddol Ffrainc. Daeth i sylw yn ei wlad fabwysiedig gyda'i nofel Kniha smíchu a zapomnění (1979), sy'n ymwneud â themâu cof, gwleidyddiaeth, a rhyddid personol. Daeth i sylw rhyngwladol gyda'i gampwaith Nesnesitelná lehkost bytí (1984), nofel a osodir yng nghyfnod Gwanwyn Prag a'r adladd, ac sy'n ymwneud â pherthnasau dynol, y pwysau a deimlir wrth wneud dewisiadau, a'r chwilfa am ystyr bywyd.

Mae ei weithiau eraill yn cynnwys Nesmrtelnost (1988), La Lenteur (1995), L'Identité (1998), a L'Ignorance (2000). Rhoddwyd i Kundera nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Jeriwsalem am Ryddid yr Unigolyn mewn Cymdeithas, a Gwobr Wladwriaethol Awstria am Lenyddiaeth Ewropeaidd. Bu farw Milan Kundera ym Mharis yn 94 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Kate Webb, "Milan Kundera obituary", The Guardian (12 Gorffennaf 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Gorffennaf 2023.